Dosbarth Y Cewri
Helo a chroeso i ddosbarth Y Cewri!
Rydym yn ddosbarth o 26 o unigolion brwdfrydig Blwyddyn 4.
Gwelir gwybodaeth isod am ein dosbarth.
Hello and welcome to Dosbarth Y Cewri!
We're a class of 26 enthusiastic Year 4 pupils.
You can access useful information about our class below.
Cyfarfod Cwrdd â’r Athro - Y CEWRI - 'Meet the Teacher' Meeting
Dyma gopi o'r cyflwyniad Cyfarfod Cwrdd â’r Athro a gynhaliwyd ar y 10fed o Fedi, 2025.
A copy of the Meet the Teacher presentation that took place on 10th September, 2025 is available below.
Ein thema ar gyfer Tymor yr Hydref yw: Tywydd eithafol
Our theme for the Autumn Term is: Severe weather
Gwaith Cartref / Homework
Bydd gan eich plentyn ffolder newydd ar gyfer ei gwaith cartref/darllen. Bydd angen i’r ffolder gael ei ddychwelyd i’r ysgol yn ddyddiol er mwyn sicrhau bod eu llyfrau targed a darllen ar gael bob dydd.
Bydd y canlynol yn eu ffolder:
- Llyfr Cymraeg a Saesneg
- Gwaith Cartref (Dydd Iau - Dydd Mawrth)
- Llyfr targed (oren)
- Cofnod ddarllen
Every child will receive a new folder for their homework/reading. Children will need to bring their folder to school, daily to ensure reading and target books are readily available whilst at school.
The following will be in every folder:
- Welsh and English book
- Homework (Thursday - Tuesday)
- Target book (orange)
- Reading Log
Darllen / Reading
Bydd angen dychwelyd eich llyfr darllen i’r ysgol yn ddyddiol. Byddwn yn darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg bob yn ail wythnos. Bydd angen i chi fel rhieni lenwi'r cofnod darllen bob tro mae eich plentyn yn darllen unrhyw destun, nid yn unig eu llyfrau darllen ysgol. Gofynnwn yn garedig i chi annog eich plentyn i ddarllen mor aml â phosib - mae 5/10 bob noswaith yn llawer mwy effeithiol na darllen llyfr cyfan y noson cyn cyfnewid llyfrau.
Please bring your reading books to school daily. We will be reading Welsh and English books every other week. We kindly ask that parents encourage reading as often as possible - 5/10 minutes a day is much more beneficial than reading a whole book the night before we switch books.
Addysg Gorfforol / P.E
Mae ein gwersi ymarfer corff bob prynhawn dydd Iau. Bydd angen i chi wisgo'r cit cywir i'r ysgol bob wythnos os gwelwch yn dda.
Our P.E lessons are on a Thursday afternoon. Please ensure that you wear the appropriate kit every week.
Er mwyn gweld lluniau diweddar o ddosbarth Y Cewri, dilynwch ein tudalen Instagram: Ysgolbroallta
Bydd 'reel' wythnosol yn cael ei rannu ar Instagram bob dydd Gwener gyda lluniau amrywiol o'r plant bob wythnos. Arbedir hyn yn wythnosol o dan ein baner uchafbwyntiau - Y Cewri 25/26.
Ceisiwn sicrhau trawstoriad o weithgareddau, fideos, lluniau a chasgliad amrywiol o blant ym mhob 'reel'. Os na fydd eich plentyn yn ymddangos wythnos yma, byddant yn ymddangos yn y fideo nesaf - mae hyn yn ffordd ar hap, naturiol o rannu lluniau diweddaraf ein dosbarth.
For the latest pictures of Dosbarth Y Cewri visit our Instagram page: Ysgolbroallta
A weekly reel will be shared every Friday and saved under our class highlights section - Y Cewri 25/26.
We aim to include a wide range of activities, videos, and photos in each class reel featuring a variety of children. If your child doesn’t appear this week, they will be included in an upcoming reel. This approach helps us share a natural and balanced snapshot of class life over time.
Dolenni defnyddiol / Useful links:
Os oes gennych unrhyw broblem neu gwestiwn ar unrhyw adeg, peidiwch oedi rhag cysylltu â mi naill ai yn uniongyrchol ar yr iard, neu drwy law'r Swyddfa.
If you have any questions or queries, please do not hesitate to contact me at any opportunity either directly with myself on the yard, or via the Office.
Diolch yn fawr iawn am eich cymorth a'ch cydweithrediad cyson.
Thank you very much for your continued support.
Miss James
Blwyddyn 4 - Y Cewri
2025/2026
Ysgol Gymraeg Bro Allta


