Dreigiau - Siarter Iaith
Mae ein Dreigiau yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac ethos Cymraeg o fewn cymuned ein hysgol, drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd a diddorol o ddefnyddio ein hiaith. Mae'r Criw hefyd yn helpu ein gwaith ysgol tuag at y wobr Aur Y Siarter Iaith.Mae'r Dreigiau yn gweithio'n galed i gefnogi'r siarter a'r arwyr Cymraeg Sbarc a Seren i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050!
Our Dragons work together to promote the use of Welsh language and a Welsh ethos within our school community, through finding new and interesting ways in which to use our language. The Dragons are also helping our school work towards the Welsh Language Charter Gold Award.
Our Dragons works hard to support the Welsh language charter and superheroes Sbarc and Seren to increase the number of Welsh speakers by 2050!
Dreigiau 2023/2024
Siarter Iaith
Her Seren a Sbarc y mis
Fel y gwyddoch, rydym yn anelu at wobr aur y Siarter Iaith eleni ac er mwyn cyflawni hyn rydym angen eich help. Yn dilyn canlyniadau ein Holiadur Cymraeg diweddar, ein targedau presennol yw:
- Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg
- Defnyddio apiau Cymraeg
- Siarad Cymraeg yn y tŷ
Mae’r Dreigiau wedi penderfynu mai’r ffordd orau o gyflawni’r nodau hyn yw drwy osod heriau misol. Bob mis bydd yna tair her:
- Can a band i wrando arno
- Testyn trafod
- Her thematig
Yn ogystal ag apiau y gellir eu lawrlwytho am ddim i'w harchwilio gartref. Mae pob her yn werth 5 pwynt Dojo a chyfle i ennill gwobr arbennig.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau unrhyw un o’r heriau, bydd angen i chi eu trydar ar ein tudalen X / Twitter @YsgolBroAllta gan ddefnyddio’r hashnod #SiarterIaithBA
Mae'r dreigiau yn cwrdd i ddewis heriau Seren a Sbarc y mis. Gweler isod heriau'r misoedd. Bydd y plant sydd yn cwblhau'r heriau yn derbyn 5 pwynt DOJO yr un a byddant yn rhoi eu henwau mewn i'r tombola i gael cyfle i enill gwobr arbennig.
Padlet
EMBEDDED_PDF_{
}
Dydd Miwsig Cymru 2024
09/02/24
Cliciwch ar y ddoleni isod er mwyn gwrando ar hoff ganeuon y staff.
Click on the below links to listen to the staff's favourite welsh songs!
Diwrnod Shwmae Su'mae 2023
13/10/23
Dyma Dreigiau CC1 & CC2 yn yr ardal lleol yn helpu pobl i siarad Cymraeg drwy ddarparu posteri sy’n cynnwys ymadroddion Cymraeg syml #rhoicynnigarni @ShwmaeSumae @EAS_Cymraeg @Siarteriaith pic.twitter.com/pZoCMHJjut
— Ysgol Gymraeg Bro Allta (@ysgolbroallta) October 15, 2023
Dyma Dreigiau CC3 yn yr ardal lleol yn helpu pobl i siarad Cymraeg drwy ddarparu posteri sy’n cynnwys ymadroddion Cymraeg syml #rhoicynnigarni @ShwmaeSumae @EAS_Cymraeg @Siarteriaith pic.twitter.com/g8a3ZwOUWL
— Ysgol Gymraeg Bro Allta (@ysgolbroallta) October 15, 2023
Diwrnod Shwmae Su’mae hapus i bawb! Draw atoch chi @ysgolyffin #siarteriaithBA @ShwmaeSumae @EAS_Cymraeg 🏴🏴 pic.twitter.com/jMOGukcbKb
— Ysgol Gymraeg Bro Allta (@ysgolbroallta) October 13, 2023
Dolenni defnyddiol! Useful links!
Defnyddiwch y dolenni isod i fwynhau a chefnogi yr iaith Gymraeg. Follow the links below to enjoy and support your Welsh language skills.
Welcome | Learn Welsh (dysgucymraeg.cymru)
The world's best way to learn Welsh - Duolingo
Syniadau dathlu'r Gymraeg!
Ideas to celebrate the Welsh language!
Oes gennych syniad am ddathlu Gymreictod? Hoffech chi weld rhywbeth arbennig yn digwydd yn ein hysgol? Gadewch i ni wybod trwy ebostio'r ysgol!
Do you have an idea of how to celebrate the Welsh language? Is there something special you would like to see in school? Let us know by emailing the school!