Ein Hanes - Our History
Agorwyd yr ysgol am y tro cyntaf ym mis Medi 1993 yn dilyn y galw cynyddol am Addysg Cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, gyda 127 o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1. Mae 317 disgybl yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae gennym ddau ddosbarth meithrin rhan-amser llwyddiannus a credwn bod sylfaen dda y blynyddoedd cynnar yn ddechrau cadarn i ddyfodol hapus a llwyddiannus eich dysgwyr. Mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr yn dod o gartrefi uniaith Saesneg ond bydd llawer o rieni yn dewis gyrru eu dysgwyr i Gylch Meithrin Cymraeg. Mae’r cam cyntaf hwn yn eu haddysg Gymraeg yn un da ond nid yw’n angenrheidiol. O’r diwrnod cyntaf yn ein hysgol nes eu bod nhw’n saith oed, caiff y dysgwyr eu trochi’n llwyr yn yr iaith Gymraeg. Yn ofalus a medrus bydd yr athrawon yn cyflwyno llawer o brofiadau addysgol a chymdeithasol gwahanol i’r dysgwyr i ymestyn eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith Gymraeg. Byddant yn cael gwersi Saesneg ym Mlwydydn 3 ac yn mwynhau manteision y ddwy iaith.
The school first opened in September 1993 as a result of the growing demand for Welsh Language Education in the area, with 127 learners from Reception Class to Year 1. There are currently 317 learners in the school. We have two successful part time nursery classes and we believe that this good foundation in the early years provides a solid base for a happy and successful future for your child. The great majority of our learners come from homes where English is the only language spoken. Many parents opt to send their learners to a Cylch Meithrin, a local Welsh Language Nursery Group. This is a desirable first step in their Welsh Language education, but not essential. From the time learners start at our school they are immersed in the Welsh language up to the age of seven. Teachers sensitively and skilfully introduce our learners to a range of educational and social experiences which expand their knowledge and use of the Welsh language.